OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 1773 (Cy. 245)
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) (Diwygio) 2015
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010 (O.S. 2010/1379 (Cy. 122)). Mae’n galluogi Gweinidogion Cymru i gyhoeddi manylion am leoliad mangreoedd lle bo’r fuches wedi colli neu adennill ei statws rhydd rhag twbercwlosis yn unol â Chyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC ar broblemau iechyd anifeiliaid sy’n effeithio ar fasnach ryng-Gymunedol mewn anifeiliaid buchol ac anifeiliaid o deulu’r mochyn (OJ Rhif P 121, 29.7.1964, t 1977).
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2015 Rhif 1773 (Cy. 245)
ANIFEILIAID, CYMRU
IECHYD ANIFEILIAID
Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) (Diwygio) 2015
Gwnaed 6 Hydref 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 12 Hydref 2015
Yn dod i rym 2 Tachwedd 2015
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 1 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981([1]).
Enwi, cymhwyso a chychwyn
1.—(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru)
(Diwygio) 2015.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 2 Tachwedd 2015.
Diwygiadau i Orchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010
2.—(1)(1) Mae Gorchymyn Twbercwlosis (Cymru) 2010([2]) wedi ei ddiwygio fel a
ganlyn.
(2) Yn erthygl 2 (dehongli) yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor mewnosoder—
“ystyr “statws rhydd rhag twbercwlosis” (“tubercolosis-free status”) yw buches sy’n bodloni’r amodau a nodir yn Atodiad A.1, paragraffau 1 a 2 o Gyfarwyddeb y Cyngor 64/432/EEC([3]) ar broblemau iechyd anifeiliaid sy’n effeithio ar fasnach ryng-Gymunedol mewn anifeiliaid buchol ac anifeiliaid o deulu’r mochyn.”
(3) Yn erthygl 12 (profi ar gyfer twbercwlosis) ym mharagraff (9) hepgorer y diffiniad o “colli ei statws rhydd rhag twbercwlosis”.
(4) Yn erthygl 14 (cofnodion o brofion ar gyfer twbercwlosis) ar ôl paragraff (3) mewnosoder—
“(4) Pan fo buches yn colli neu’n adennill ei statws rhydd rhag twbercwlosis caiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi gwybodaeth am y fuches honno ar unrhyw ffurf y mae Gweinidogion Cymru yn barnu ei bod yn addas at ddibenion helpu personau eraill i ddiogelu rhag lledaeniad pellach twbercwlosis.”
Rebecca Evans
Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd o dan awdurdod y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
6 Hydref 2015
([1]) 1981 p. 22. Mae swyddogaethau o dan y Ddeddf yn arferadwy gan Weinidogion Cymru (o ran Cymru), yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672); Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004 (O.S. 2004/3044); ac adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi.